SL(6)405 – Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion gwahanu yng Nghymru (at ddibenion adran 45AA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) (Deddf 1990)) gyda’r nod o sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli mewn modd sy’n hyrwyddo ailgylchu o safon uchel. Mae’r gofynion gwahanu yn gymwys mewn cysylltiad â phob mangre ac eithrio eiddo domestig a charafannau. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i ysbytai gyflwyno gwastraff ar wahân i'w gasglu tan 6 Ebrill 2026.
Caiff gofynion gwahanu eu pennu mewn perthynas â chyflwyno gwastraff i’w gasglu (rheoliad 3), casglu gwastraff (rheoliad 4) a thrin gwastraff sydd wedi ei gasglu (rheoliad 5).
Diffinnir “ffrydiau gwastraff ailgylchadwy” yn rheoliad 2 i olygu:
(a) gwydr;
(b) cartonau a’u tebyg, metel a phlastig;
(c) papur a cherdyn;
(d) gwastraff bwyd;
(e) offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd; ac
(f) tecstilau nas gwerthwyd.
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ffrwd wastraff ailgylchadwy gael ei chyflwyno ar wahân er mwyn ei chasglu. Rhaid i’r rheini sy’n casglu gwastraff o’r fath, gasglu’r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy ar wahân (rheoliad 4). Ni chaniateir i’r rheini sydd wedyn yn trin y gwastraff hwnnw ei gymysgu ag unrhyw ffrwd wastraff ailgylchadwy arall na’i gymysgu â mathau eraill o wastraff neu ddeunyddiau neu eitemau eraill (rheoliad 5). Pan fo meddiannydd mangre yn mynd â gwastraff a reolir i fan casglu canoledig (er enghraifft, canolfan ailgylchu gwastraff mae hyn yn gyfystyr â “cyflwyno i’w gasglu” o dan y Rheoliadau.
Mae Atodlen 2 yn darparu bod rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid hefyd gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth. Cyn i unrhyw ganllawiau gael eu cyhoeddi, mae’n ofynnol i’r rheoleiddiwr ymgynghori. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr. Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill costau penodol gorfodaeth yn achos cosbau ariannol amrywiadwy. Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir gan y rheoleiddiwr o dan y Rheoliadau ynghyd ag unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodir y chwe phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg
Yn rheoliad 2, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Cymraeg, yn y rhestr o ddiffiniadau, ceir diffiniad ychwanegol sydd ddim i'w gael yn y testun Saesneg, sef "person sy’n gweithredu yng nghwrs busnes”. Mae'r diffiniad hwn yn ymddangos yn gywir yn ddiweddarach yn nhestun y ddwy iaith yn rheoliad 5(2) a dyna'r unig reoliad lle defnyddir y term yn y Rheoliadau hyn.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Ym mhenawdau Rhan 4 a rheoliad 7, caiff teitl "Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990" ei ailadrodd yn llawn yn hytrach na defnyddio'r term diffiniedig "Deddf 1990" a ddefnyddir mewn gwirionedd yng nghorff rheoliad 7.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg
Yn Atodlen 1, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a Saesneg. Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at "Rigid paper containers" o dan y pennawd "Cartons and similar" ond mae'r testun Cymraeg wedi cyfieithu'r ystyr fel "Cynwysyddion plastig anhyblyg".
4. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11(1), yn y testun Cymraeg, cyfieithwyd "determine" fel "ganfyddir". Nodir y term "canfod" yng Ngeirfa yr Uned Gyfieithu Ddeddfwriaethol fel y term a ffefrir wrth gyfleu ystyr "determine" yng nghyd-destun canfod, sefydlu neu ddarganfod rhywbeth. Ond ymddengys ei fod yn anghywir yng nghyd-destun paragraff 11(1) pan fo “determine” yn cyfeirio at bennu swm y gosb ariannol sydd i'w thalu i'r rheoleiddiwr.
Nodir y term "pennu" hefyd yng Ngeirfa yr Uned Gyfieithu Ddeddfwriaethol fel y term a ffefrir wrth gyfleu ystyr "determine" mewn cyd-destun gwahanol pennu, gosod neu nodi swm ac ati. Felly, ymddengys fel y dylai "determine" fod wedi cael ei gyfieithu fel "bennu" yn hytrach na "ganfod" i gyfleu ystyr y term hwnnw yn gywir yng nghyd-destun paragraff 11(1) o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 25(2) a (3) ceir cyfeiriadau a ddisgrifir yn anghywir fel "paragraff (1)(b)" ond dylid eu disgrifio fel "is-baragraff (1)(b)". Mae gwall tebyg yn digwydd ym mharagraff 28(2) lle ceir cyfeiriad a ddisgrifir yn anghywir fel "paragraff (1)(a)" ond dylid ei ddisgrifio fel "is-baragraff (1)(a)" – gweler Drafftio Deddfau i Gymru 6.16 am gyfeiriadau cyfansawdd.
6. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr ei destun Cymraeg a’i destun Saesneg
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 25(3)(c), yn y testun Saesneg, defnyddir yr ymadrodd "determining the amount" mewn perthynas â swm y gosb. Fodd bynnag, yn y paragraff 26(c) canlynol, defnyddir ymadrodd ychydig yn wahanol, "establishing the amount", mewn perthynas â'r cosbau diffyg cydymffurfio a'r hysbysiadau adennill costau gorfodi.
Yn y testun Cymraeg, cyfieithwyd "determining” ac "establishing" gan ddefnyddio'r un gair "bennu" sy'n cyfleu ystyr pennu neu osod/nodi swm i'w dalu yn y cyd-destun hwn. Mae'n awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg fod yr un ystyr i "determining the amount” ac “establishing the amount” yn y paragraffau hynny. Os oes gwahaniaeth mewn ystyr, byddai wedi bod yn fwy priodol defnyddio term gwahanol yn nhestun Cymraeg paragraff 26(c), fel "gadarnhau" a ddefnyddir eisoes ym mharagraff 11(4) ar gyfer "establishing the amount". Byddai hyn wedi cyfleu ystyr "establishing" yn yr ystyr o nodi neu ganfod y swm o dan sylw.
Felly, nid yw cyfieithiad paragraffau 25(3)(c) a 26(c) yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 yn cyfleu gwahanol ystyron posibl y testun Saesneg (os oes gwahaniaeth bwriadedig) yng nghyd-destun y paragraffau hynny. Yn ogystal, mae'n golygu bod y cyfieithiad o baragraffau 25(3)(c) a 26(c) yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn wahanol i'r hyn a geir yn y paragraffau cyfatebol yn yr Atodlen i Reoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023, er bod y testun Saesneg yn union yr un fath. Ond mae’n aneglur hefyd a yw'r gwahaniaeth o ran drafftio'r testun Saesneg trwy ddefnyddio "determining" ac "establishing” yn fwriadol oherwydd gwahaniaeth bwriadol yn eu hystyr neu anghysondeb yn y drafftio.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
15 Tachwedd 2023